ferdefuß,
walisischer Gwas Gilar a phen campwr ei oes am chwareu
cardiau oedd Robert Llwyd Hari. Ond wrth fyn'd adre' o Rhydlydan, wedi bod
yn chwareu yn nhy Modryb Ann y Green, ar ben y lôn groes, daeth boneddwr i'w
gyfarfod, ag aeth yn ymgom rhyngddynt. Gofynodd y boneddwr iddo chware' match
o gardiau gydag e. ‹Nid oes genyf gardiau›, meddai Bob. ‹Oes, y mae
genyt ddau ddec yn dy bocet›, meddai'r boneddwr. Ag fe gytunwyd i chware'
match ar Bont Rhyd-y-Cae, gan ei bod yn oleu lleuad braf. Bu y boneddwr yn daer
iawn arno dd'od i Blas lolyn, y caent ddigon o oleu yno, er nad oedd neb yn
byw yno ar y pryd. Ond nacaodd yn län. Aed ati o ddifrif ar y bont, R. Ll. yn
curo bob tro. Ond syrthiodd cardyn dros y bont, ac fe edrychodd yntau i lawr.
Beth welai ond carnau ceffyl gan y boneddwr. Tyngodd ar y Mawredd na chwareuai
ddim chwaneg; ar hyn fe aeth ei bart-ncr yn olwyn o dän rhyngddo a Phlas lolyn,
ac aeth yntau adre'i'r Gilar. - (
wal
)
|
||
|
||